SL(6)214 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) (Diwygio) 2022

Cefndir a Diben

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010 (“Rheoliadau 2010”) yn gosod rhwymedigaethau ar wahanol bersonau at ddiben atal mynychder neu ledaeniad haint neu halogiad, diogelu rhagddo, ei reoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd iddo.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2010 drwy:                                         

·         ychwanegu “brech y mwncïod” at y rhestr o glefydau a syndromau yn Atodlen 1 y mae dyletswydd ar ymarferwyr meddygol i hysbysu awdurdod lleol perthnasol amdanynt os credir bod clefyd neu syndrom o’r fath ar glaf y maent yn ei wasanaethu.

 

·         ychwanegu “firws brech y mwncïod” at y rhestr o gyfryngau achosol yn Atodlen 2 y mae dyletswydd ar weithredwyr labordai diagnostig i hysbysu awdurdod lleol perthnasol amdanynt os ydynt yn darganfod cyfrwng, neu dystiolaeth o gyfrwng o’r fath, mewn sampl dynol.

Y weithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodwn y torrir y rheol 21 diwrnod (h.y. y rheol y dylai 21 diwrnod fod rhwng y dyddiad y gosodir offeryn “gwneud negyddol” gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym), a'r esboniad am dorri’r rheol, a ddarparwyd gan Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mewn llythyr at y Llywydd, dyddiedig 14 Mehefin 2022.

Yn benodol, nodwn y canlynol yn y llythyr:

Mae peidio â chadw at y confensiwn 21 diwrnod yn caniatáu i'r Rheoliadau hyn ddod i rym cyn gynted â phosibl i ymateb i'r achosion presennol o frech y mwncïod yn y DU. Bydd yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw ymarferwyr meddygol hysbysu swyddog priodol yr awdurdod lleol perthnasol am unrhyw achosion tybiedig o frech y mwncïod. Yn ogystal, bydd yn rhaid i labordai diagnostig adrodd os ydynt yn nodi firws brech y mwncïod fel cyfrwng achosol.”

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodwn na fu unrhyw ymgynghori ffurfiol ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

            “Gan fod y Rheoliadau’n darparu gwelliant cyfyngedig, sy’n effeithio ar nifer fach o unigolion ac nad yw’n adlewyrchu newid ym mholisi Llywodraeth Cymru, ni chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

20 Mehefin 2022